Yn ei gyfarfod ar
30 Tachwedd,cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol sesiwn sganio’r gorwel gydag Arolygiaeth Gofal
Cymru (AGC) i archwilio’r prif faterion sy’n effeithio
ar ofal
cymdeithasol a gwasanaethau
cymdeithasol.
Fe drafodwyd y mater o adroddiadau AGC, er
enghraifft adroddiadau arolygu ar gartrefi plant, a'r
hyn sy'n
digwydd iddynt ar ôl cael eu cyflwyno i'r awdurdod lleol
perthnasol. Mae aelodau'n awyddus i ddeall y broses a bydden nhw'n
ddiolchgar petaech yn gallu egluro:
1.
Beth sy'n digwydd i'r
adroddiad ar ôl ei gyhoeddi, er enghraifft a gaiff ei
ystyried yn ffurfiol gan y pwyllgor craffu perthnasol.
Sut mae camau’n cael
eu gweithredu.
Sut mae camau
gweithredu’n cael eu monitro a gan bwy.
2.
3.
Byddwn yn ystyried ein blaenraglen waith yn gynnar
yn y flwyddyn newydd, a byddai'n ddefnyddiol
felly derbyn eich ymateb
erbyn 27 Ionawr 2023.
Yn gywir
Russell George AS
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd
a Gofal Cymdeithasol
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg. We
welcome correspondence in Welsh or English.
cc Jayne Bryant, Cadeirydd Y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg